GWEITHIO YN Y BBC
Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf a hwyaf y byd, mae gennym rôl unigryw sy’n sail i ddiwylliant a democratiaeth yn y DU a thramor.
Mae denu a chadw’r dalent orau un wrth galon y gwaith o ddarparu ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
BUDDION WEDI’U CREU AR EICH CYFER CHI
Mae ein buddion wedi’u creu i wobrwyo, cefnogi a datblygu ein pobl. Mae gan bob un ohonom rôl yn y gwaith o greu diwylliant creadigol a chynhwysol sy’n llawn cyfleoedd. Rydym am i’n staff ffynnu, cynhyrchu eu gwaith gorau a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu hallbwn.
Maen nhw’n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn darparu i gydweithwyr a’r ffordd maen nhw’n byw ac yn gweithio.
Dyma bedwar maes buddiannau
-
GWEITHLE AMRYWIOL A CHYNHWYSOL
Mae’r BBC ar gyfer pawb – a dylai gynnwys pawb. Mae Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Er mwyn sicrhau bod ein cynnwys yn gynhwysol ac yn cynrychioli pob grŵp a chymuned, rhaid i ni adeiladu timau sy’n defnyddio’r ystod ehangaf o brofiadau, talent a syniadau – gan adlewyrchu Prydain fodern a’r byd.
Dau o gydweithwyr y BBC yn cael coffi
-
MWY O ATEBOLRWYDD, PERFFORMIAD GWELL
Rydyn ni’n awyddus i adeiladu timau sy’n ymgysylltu ac sy’n perfformio’n dda ar draws y BBC. Ynghyd â ‘fySgwrs’, rydyn ni’n gwobrwyo perfformiad da drwy ‘fyNghydnabyddiaeth’ ac yn dal uwch arweinwyr yn atebol drwy adolygiadau 360 a’r mynegai Uwch Arweinwyr.
Tri o weithwyr BBC Studios ym Mumbai
-
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A GYRFA O’R SAFON ORAU
Rydyn ni’n awyddus i bawb gael gyrfa gyffrous sy'n rhoi boddhad yn y BBC, a dyna pam mae pawb yn cael ‘fySgwrs’ ddwywaith y flwyddyn i osod nodau gyrfa gyda’u rheolwr; ac rydyn ni’n buddsoddi mewn amrywiaeth eang o raglenni datblygu.
Yn 2021/22, roedd dros 4,000 o gydweithwyr wedi dechrau mewn rolau newydd, ac roedd bron i 15% o’r rheini’n ddyrchafiad.Dau o weithwyr y BBC yn rhannu sgrin cyfrifiadur
-
CEFNOGI BYWYDAU GWAITH
O’n polisïau newydd ar gyfer absenoldeb rhiant a gofalwr i gymorth menopos, gweithio’n hyblyg a phecyn lles cynhwysfawr, rydyn ni’n ceisio cynnig cymorth a hyblygrwydd pan fydd ei angen arnoch fwyaf.
Dau o weithwyr y BBC yn cydweithio
A dyma rhagor
-
CYFLOG TEG
Rydyn ni’n adolygu ein cyflogau bob blwyddyn i sicrhau ein bod yn gwobrwyo pobl yn deg ac yn cynnig gwerth am arian i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded. I gydweithwyr y tu allan i’r DU, mae adolygiad cyflog ar y gweill, wedi’i lywio gan ffactorau marchnad leol, gyda chynnydd yn digwydd ar yr un pryd ag yn y DU.
Yn BBC Studios, mae ein cyflog yn seiliedig ar y farchnad ac efallai y bydd rhai rolau hefyd yn gymwys i fod yn rhan o gynllun bonws.
Gweithwyr y BBC mewn pod cyfarfod
-
BUDDION HYBLYG
Mae ein cynllun buddion hyblyg yn y DU yn cynnwys cynllun pensiwn a fyNewisiadau, sy’n rhoi cyfle i chi greu pecyn sy’n bersonol i chi, gan gynnwys yswiriant iechyd; yr opsiwn i brynu a gwerthu gwyliau blynyddol; aelodaeth campfa; disgownt ar gynnyrch a gwasanaethau drwy fyMargeinion.
Yn BBC Studios, mae buddion rhyngwladol yn amrywio o yswiriant meddygol i aelodaeth am ddim o Peloton.
Un o weithwyr y BBC yn gwenu
-
GWEITHIO YN EICH FFORDD CHI’CH HUN
Rydyn ni’n credu mewn rhoi'r gallu i chi wneud eich gwaith gorau, felly rydyn ni’n cynnig cefnogaeth a hyblygrwydd i gael cydbwysedd rhwng gwaith a chartref.
Mae gweithio hybrid yn y BBC yn golygu y bydd gan bawb sylfaen weithio, a gallwch ofyn am drefniadau Gweithio Hyblyg neu Weithio o Bell unrhyw bryd. Bydd hyn yn dibynnu ar eich rôl a’i gofynion.
Un o weithwyr y BBC yn gweithio gartref
-
CYMORTH I FOD YN FWY GWYRDD
Mae ein cynnwys anhygoel yn addysgu cynulleidfaoedd am y byd naturiol, yr argyfwng hinsawdd a chynaliadwyedd. Rydyn ni ar flaen y gad o ran arferion cynhyrchu cynaliadwy, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni Sero Net erbyn 2030 ac yn falch o fod wedi ymrwymo i’r Addewid Cynnwys Hinsawdd.
Fel cyflogwr cyfrifol, rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar ein planed ac i gefnogi ein pobl i wneud dewisiadau personol mwy gwyrdd.
Dau o weithwyr y BBC yn sgwrsio wrth fwrdd uchel
RHWYDWEITHIAU I WEITHWYR
Ar draws y BBC, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau staff pwrpasol ac arbenigol sy’n dod â phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol at ei gilydd i rwydweithio, ac i’n helpu i wneud penderfyniadau ar sail mwy o wybodaeth.
UNDEBAU LLAFUR
Yn y BBC, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin cysylltiadau adeiladol â’n hundebau llafur cydnabyddedig yn unol â rhwymedigaethau ein Siarter.
Yn dibynnu ym mha faes rydych chi’n gweithio yn y BBC, efallai hoffech chi ymuno ag un o’n hundebau cydnabyddedig sy’n ffurfio Cyd-undebau y BBC. Dyma’r undebau sy’n negodi cyflogau, telerau ac amodau cyflogaeth, polisïau a newidiadau lleol yn ogystal â darparu cymorth, cyngor a chynrychiolaeth unigol i aelodau.
Fel aelod o undeb llafur, cewch gyfle i bleidleisio ar unrhyw un o’r materion allweddol sy’n effeithio ar staff, fel cynigion cyflog, pensiynau a thelerau ac amodau. Pwrpas Undebau yn y BBC yw cynrychioli grwpiau penodol mewn negodiadau. Mae’r NUJ yn cynrychioli newyddiadurwyr, mae Bectu yn cynrychioli holl staff eraill y BBC (gan gynnwys swyddi crefft, technegol, cynhyrchu a swyddfa), ac mae Unite yn cynrychioli meysydd penodol o staff cynhyrchu a chynnal a chadw.
Mae’r rheolwyr a’r undebau, gan gynnwys swyddogion a chynrychiolwyr y BBC, yn cwrdd yn rheolaidd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Gall undebau gynnal ymgyrchoedd sy’n ymwneud â’r gweithle a lobïo ar faterion sy’n bwysig i chi. Ein nod bob amser, drwy weithio gyda’n gilydd, yw gwella bywyd gwaith pobl.
Mae Undeb y Cerddorion yn cynrychioli pum Cerddorfa a Chantorion y BBC ar y cyd ledled y DU.
Ar draws y BBC, rydym yn gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy gyda’n gilydd. Edrychwch ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar y sgrin ac oddi arni.
AI DYMA’R BBC I CHI?
GWEITHIO YN Y BBC
Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf a hwyaf y byd, mae gennym rôl unigryw sy’n sail i ddiwylliant a democratiaeth yn y DU a thramor.
Mae denu a chadw’r dalent orau un wrth galon y gwaith o ddarparu ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
BUDDION WEDI’U CREU AR EICH CYFER CHI
Mae ein buddion wedi’u creu i wobrwyo, cefnogi a datblygu ein pobl. Mae gan bob un ohonom rôl yn y gwaith o greu diwylliant creadigol a chynhwysol sy’n llawn cyfleoedd. Rydym am i’n staff ffynnu, cynhyrchu eu gwaith gorau a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu hallbwn.
Maen nhw’n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn darparu i gydweithwyr a’r ffordd maen nhw’n byw ac yn gweithio.
GWEITHLE AMRYWIOL A CHYNHWYSOL
Mae’r BBC ar gyfer pawb – a dylai gynnwys pawb. Mae Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Er mwyn sicrhau bod ein cynnwys yn gynhwysol ac yn cynrychioli pob grŵp a chymuned, rhaid i ni adeiladu timau sy’n defnyddio’r ystod ehangaf o brofiadau, talent a syniadau – gan adlewyrchu Prydain fodern a’r byd.
MWY O ATEBOLRWYDD, PERFFORMIAD GWELL
Rydyn ni’n awyddus i adeiladu timau sy’n ymgysylltu ac sy’n perfformio’n dda ar draws y BBC. Ynghyd â ‘fySgwrs’, rydyn ni’n gwobrwyo perfformiad da drwy ‘fyNghydnabyddiaeth’ ac yn dal uwch arweinwyr yn atebol drwy adolygiadau 360 a’r mynegai Uwch Arweinwyr.
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A GYRFA O’R SAFON ORAU
Rydyn ni’n awyddus i bawb gael gyrfa gyffrous sy'n rhoi boddhad yn y BBC, a dyna pam mae pawb yn cael ‘fySgwrs’ ddwywaith y flwyddyn i osod nodau gyrfa gyda’u rheolwr; ac rydyn ni’n buddsoddi mewn amrywiaeth eang o raglenni datblygu.
Yn 2021/22, roedd dros 4,000 o gydweithwyr wedi dechrau mewn rolau newydd, ac roedd bron i 15% o’r rheini’n ddyrchafiad.
CEFNOGI BYWYDAU GWAITH
O’n polisïau newydd ar gyfer absenoldeb rhiant a gofalwr i gymorth menopos, gweithio’n hyblyg a phecyn lles cynhwysfawr, rydyn ni’n ceisio cynnig cymorth a hyblygrwydd pan fydd ei angen arnoch fwyaf.
CYFLOG TEG
Rydyn ni’n adolygu ein cyflogau bob blwyddyn i sicrhau ein bod yn gwobrwyo pobl yn deg ac yn cynnig gwerth am arian i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded. I gydweithwyr y tu allan i’r DU, mae adolygiad cyflog ar y gweill, wedi’i lywio gan ffactorau marchnad leol, gyda chynnydd yn digwydd ar yr un pryd ag yn y DU.
Yn BBC Studios, mae ein cyflog yn seiliedig ar y farchnad ac efallai y bydd rhai rolau hefyd yn gymwys i fod yn rhan o gynllun bonws.
BUDDION HYBLYG
Mae ein cynllun buddion hyblyg yn y DU yn cynnwys cynllun pensiwn a fyNewisiadau, sy’n rhoi cyfle i chi greu pecyn sy’n bersonol i chi, gan gynnwys yswiriant iechyd; yr opsiwn i brynu a gwerthu gwyliau blynyddol; aelodaeth campfa; disgownt ar gynnyrch a gwasanaethau drwy fyMargeinion.
Yn BBC Studios, mae buddion rhyngwladol yn amrywio o yswiriant meddygol i aelodaeth am ddim o Peloton.
GWEITHIO YN EICH FFORDD CHI’CH HUN
Rydyn ni’n credu mewn rhoi'r gallu i chi wneud eich gwaith gorau, felly rydyn ni’n cynnig cefnogaeth a hyblygrwydd i gael cydbwysedd rhwng gwaith a chartref.
Mae gweithio hybrid yn y BBC yn golygu y bydd gan bawb sylfaen weithio, a gallwch ofyn am drefniadau Gweithio Hyblyg neu Weithio o Bell unrhyw bryd. Bydd hyn yn dibynnu ar eich rôl a’i gofynion.
CYMORTH I FOD YN FWY GWYRDD
Mae ein cynnwys anhygoel yn addysgu cynulleidfaoedd am y byd naturiol, yr argyfwng hinsawdd a chynaliadwyedd. Rydyn ni ar flaen y gad o ran arferion cynhyrchu cynaliadwy, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni Sero Net erbyn 2030 ac yn falch o fod wedi ymrwymo i’r Addewid Cynnwys Hinsawdd.
Fel cyflogwr cyfrifol, rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar ein planed ac i gefnogi ein pobl i wneud dewisiadau personol mwy gwyrdd.
RHWYDWEITHIAU I WEITHWYR
Ar draws y BBC, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau staff pwrpasol ac arbenigol sy’n dod â phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol at ei gilydd i rwydweithio, ac i’n helpu i wneud penderfyniadau ar sail mwy o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n rhwydweithiau i Weithwyr.