PAM BBC?
Mae’r BBC yn cynnig amrywiaeth unigryw o gyfleoedd. Mae ein timau amrywiol yn ffynnu ar arloesedd ac uchelgais creadigol. Does dim gwahaniaeth pa dîm rydych chi’n ymuno ag ef na pha rôl rydych chi ynddi, eich BBC chi yw hwn.
Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr o’r radd flaenaf ac yn cydweithio â lleisiau dewr ac amrywiol i ddatblygu a thyfu gyda’n gilydd. Byddwch yn ymwneud â chynnwys sy’n cael ei weld gan filiynau o bobl ledled y byd – ac yn teimlo gwir ymdeimlad o bwrpas yn eich gwaith, bob dydd.
Creu brandiau enwog ac ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd. Mae’r rolau’n cynnwys strategaeth a phartneriaethau brand, cyfathrebu, cynnwys, brand, marchnata digidol a sianeli, creadigol a dylunio, safbwyntiau ac ymchwil, a rheoli masnachfraint.
GWAITH COMISIYNU A GOLYGYDDOL
Comisiynu, amserlennu a darlledu cynnwys o’r radd flaenaf ar draws sianeli llinol a digidol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn y DU a llwyfannau masnachol ledled y byd.
CYNHYRCHU CYNNWYS
Datblygu a chynhyrchu cynnwys fideo a sain poblogaidd ar gyfer y DU a’r byd. O Newyddion a Chwaraeon mewn gwasanaeth cyhoeddus, i sawl genre yn BBC Studios. Mae llawer o swyddi’n rhai cyfnod penodol neu’n rhai llawrydd.
SWYDDOGAETHAU CORFFORAETHOL
Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar draws y sefydliad, gan gynnwys rheoli hawliau a materion cyfreithiol, cyllid, caffael a gweinyddu. Cyfleoedd ym maes materion cyhoeddus, cyfathrebu, a pholisi a strategaeth.
DATA A DADANSODDEG
Mae ein timau data yn hanfodol i adnabod ein cynulleidfaoedd a siapio’r BBC, o ran anghenion heddiw a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rolau cyffrous ar gyfer dadansoddwyr data, gwyddonwyr data, peirianwyr data a rheolwyr data.
ADNODDAU DYNOL
Recriwtio, cadw a datblygu talent eithriadol. Cyfleoedd cyffrous ym maes Adnoddau Dynol, cyfathrebu mewnol ac mewn hyfforddi, dysgu a datblygu.
NEWYDDIADURAETH
Ymunwch â brand newyddion mwyaf dibynadwy’r byd, gan gyrraedd dros 256 miliwn o bobl bob wythnos. Cyfleoedd ar draws y DU a’r byd, gan gynnwys rolau ym maes newyddion digidol a ffrydio.
GWEITHREDIADAU
Galluogi’r sefydliad i redeg yn ddidrafferth ar draws pob maes, o’r cyfryngau a gweithrediadau technegol, i reoli prosiectau.
GWERTHU A DATBLYGU BUSNES
Gan weithio gyda brandiau a chynnwys o’r radd flaenaf, mae’r cyfleoedd yma’n cynnwys Ymgysylltu, Hysbysebu, Fformat, Gwerthiant Cynnwys, Strategaeth a Datblygu Busnes.
TECHNOLEG A CHYNNYRCH
Gweithio ar brosiectau a llwyfannau sy’n effeithio ar filiynau o ddefnyddwyr bob dydd. O reoli a dylunio cynnyrch, i beirianneg meddalwedd a’r DU, systemau technoleg a darparu i reoli gwasanaethau a diogelwch gwybodaeth.
GYRFAOEDD CYNNAR
Mae gennym amrywiaeth eang o gynlluniau talent newydd gan gynnwys prentisiaethau, hyfforddeiaethau, lefelau T a phrofiad gwaith ym maes Newyddiaduraeth, Cynhyrchu Cynnwys, Technoleg Darlledu, Peirianneg Meddalwedd, Dylunio Profiad Defnyddwyr, Marchnata, Busnes, ac Adnoddau Dynol.
LLAWRYDD
Mae gweithwyr llawrydd yn rhan hanfodol o’r ffordd rydyn ni’n creu ac yn dod â’n cynyrchiadau anhygoel at ei gilydd. Maen nhw’n darparu mewnbwn creadigol hanfodol ac arbenigedd technegol sydd ei angen arnom ochr yn ochr â’n gweithwyr parhaol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses a’n hamrywiaeth eang o gyfleoedd, cliciwch yma
GWEITHIWR LLAWRYDD GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC: RHAGOR O WYBODAETH >