SUT RYDYN NI’N CYFLOGI
Rydym yn canolbwyntio ar bwrpas. Fel un o’r brandiau cyfryngau mwyaf dibynadwy yn y byd, rydyn ni’n cynnig creadigrwydd o’r radd flaenaf a chynnwys arloesol i hysbysu, addysgu a diddanu ein cynulleidfaoedd
Mae meddylfryd yn bwysig. Rydyn ni’n chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein Gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi gwahaniaeth. Pobl sy’n hunanymwybodol, yn frwdfrydig ac sy’n darparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol.
Rydyn ni’n chwilio am botensial yn hytrach na pherffeithrwydd, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
ADDASIADAU RHESYMOL
Rydyn ni’n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi er mwyn ymgeisio neu i gael cyfweliad am rôl gyda’r BBC, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk gan nodi cyfeirnod y swydd yn y pwnc. Byddem yn falch o gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut y gallwn eich cefnogi drwy’r broses, gan fod nifer o wahanol ffyrdd y gallwn dderbyn cais a/neu addasu ein prosesau dethol. Pa un ai bod eich proses ddethol ar-lein neu wyneb yn wyneb, gallwn wneud addasiadau fel isdeitlau dros Zoom, rhoi mwy o amser i chi, neu addasu ein cwestiynau – beth bynnag yw’r addasiad priodol ar gyfer eich anghenion.