YDYCH CHI’N BAROD I LANSIO EICH GYRFA YN Y BBC?

P'un ai ydych chi’n gadael yr ysgol, yn graddio neu'n chwilio am gyfle i newid eich gyrfa, dysgwch am y cynlluniau gyrfaoedd cynnar rydyn ni’n eu cynnig i'ch rhoi ar y trywydd iawn ac i ennill swydd y byddwch yn ei mwynhau.

DOD O HYD I’CH CYNLLUN HYFFORDDI >
 
Dewch i gyfarfod rhai o’n pobl

  • Neyana, prentis BBC

    “Cefais gyfle i gyflwyno, cynhyrchu, ysgrifennu, ymchwilio a ffilmio fy stori wreiddiol fy hun ar bwnc rwy’n frwd drosto. Roedd gwybod bod fy stori ar gael i bobl ei wylio yn uchafbwynt i mi.”
    Nayana
    – Prentis Newyddiadurwr

  • Kevin, prentis BBC

    “Wrth weithio fel hyfforddai ar The Cultural Frontline I , fe wnes i gynnig syniad am bennod ynghylch integreiddio cerddorion anabl i’r diwydiant cerddoriaeth prif ffrwd. Cefais ryddid i ddysgu a hwb i fy hyder i gyd-gynhyrchu fy sioe fy hun.”
    Kevin 
    – Uwch Hyfforddai Cynhyrchu

  • Umar, prentis BBC

    “Cyn i mi ymuno â BBC Sport, roeddwn i’n gyffrous ond yn nerfus. Cefais ddigon o gefnogaeth gan fy nhîm. Fy mhrosiect cyntaf oedd edrych ar sut rydyn ni’n cynyddu ymgysylltiad defnyddwyr â rhestrau chwaraewyr timau pêl-droed ac ailwampio’r elfennau gweledol. Fel cefnogwr brwd o bêl-droed, roeddwn yn fy elfen!”
    Umar 
    – Prentis Profiad Defnyddwyr Digidol

  • Emily, prentis BBC

    “Un o fy lleoliadau oedd gyda BBC Plant Mewn Angen”. Roedd trefnu’r gwirfoddolwyr ar gyfer 4 digwyddiad ledled y DU yn her enfawr, ond roedd yn gyfle i ddysgu gymaint.”
    Emily 
    – Prentis Rheolwr Prosiect

“Cefais gyfle i gyflwyno, cynhyrchu, ysgrifennu, ymchwilio a ffilmio fy stori wreiddiol fy hun ar bwnc rwy’n frwd drosto. Roedd gwybod bod fy stori ar gael i bobl ei wylio yn uchafbwynt i mi.”
Nayana
– Prentis Newyddiadurwr

“Cyn i mi ymuno â BBC Sport, roeddwn i’n gyffrous ond yn nerfus. Cefais ddigon o gefnogaeth gan fy nhîm. Fy mhrosiect cyntaf oedd edrych ar sut rydyn ni’n cynyddu ymgysylltiad defnyddwyr â rhestrau chwaraewyr timau pêl-droed ac ailwampio’r elfennau gweledol. Fel cefnogwr brwd o bêl-droed, roeddwn yn fy elfen!”
Umar 
–  Prentis Profiad Defnyddwyr Digidol

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD

Ydych chi eisiau gweithio yn y BBC ond yn ansicr beth allech chi ei wneud? Dysgwch ble gallech chi weithio a’r llwybr gyrfa sy’n addas i chi.

CYFLEOEDD GYRFAOEDD CYNNAR >

Y BROSES YMGEISIO

Os ydych chi wedi pori drwy ein cynlluniau ac yn barod i wneud cais, dysgwch fwy am ein proses ymgeisio.
 
Y BROSES YMGEISIO >

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Os oes gennych chi gwestiynau o hyd am yr hyn rydych chi wedi’i ddarllen neu sut rydyn ni’n cyflogi, gallai’r adran hon eich helpu. 

DARLLENWCH EIN CWESTIYNAU CYFFREDIN >

PAM Y BBC?

Rydyn ni’n gyflogwr gyrfaoedd cynnar blaenllaw ac yn cyflogi dros 250 o brentisiaid bob blwyddyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a thalentau y tu mewn a’r tu allan i’r BBC ac, fel un o sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu dysgu gan y gorau.

Dyma rai gwobrau a enillwyd yn ddiweddar

PRENTISIAETHAU CENEDLAETHOL- RHAGORIAETH RECRIWTIO A CHYFLOGWR Y FLWYDDYN 2022

PRIF GYFLOGWR GRADDEDIGION 2023

PRIF GYFLOGWR SYMUDEDD CYMDEITHASOL 2022

  • Logo Gwobrau Prentisiaethau Cenedlaethol 2022 yr Adran Addysg. Mae’r testun yn darllen: Enillydd Cenedlaethol.

    PRENTISIAETHAU CENEDLAETHOL- RHAGORIAETH RECRIWTIO A CHYFLOGWR Y FLWYDDYN 2022

  • Logo Gwobrau 2023 Recriwtio Graddedigion The Times. Mae’r testun yn darllen: Cyflogwr o Ddewis Graddedigion, Cyfryngau.

    PRIF GYFLOGWR GRADDEDIGION 2023

  • Logo Mynegai 2022 y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol. Mae’r testun yn darllen: Cyflogwr yn y 75 uchaf.

    PRIF GYFLOGWR SYMUDEDD CYMDEITHASOL 2022

YR HYN RYDYN NI’N CHWILIO AMDANO

Rydyn ni eisiau i bobl sy’n dangos potensial ymuno â ni yn y BBC. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi brofiad helaeth - eich angerdd a’ch gwerthoedd, sy’n bwysig i ni. 

Mae amrywiaeth wir yn bwysig i ni. Rydyn ni eisiau dod â lleisiau a syniadau newydd i’n timau oherwydd mae’n bwysig bod y BBC yn cynrychioli’r cynulleidfaoedd a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r hyn mae pob unigolyn yn ei gynnig.  

Rydyn ni’n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2.

DILYNWCH NI AR @BBCGETIN

DILYNWCH NI @BBCGETIN

GWELD EIN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL I GYD

DILYNWCH NI AR @BBCGETIN

DILYNWCH NI @BBCGETIN

GWELD EIN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL I GYD