CWESTIYNAU CYFFREDIN
CWESTIYNAU CYFFREDIN
CANLLAWIAU YMGEISIO
CANLLAWIAU YMGEISIO
1. PA GYNLLUN NEU LEFEL PRENTISIAETH DDYLWN I WNEUD CAIS AMDANO?
Rydyn ni’n argymell eich bod yn treulio amser yn darllen y wybodaeth am yr holl gynlluniau sydd ar gael i'ch helpu i benderfynu. Mae ein uwch brentisiaethau wedi'u hanelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd, profiad helaeth mewn maes neu os ydych chi wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth yn y gorffennol, edrychwch ar ein prentisiaethau lefel uwch.
Mae gan bob prentisiaeth feini prawf cymhwysedd gwahanol. Darllenwch yr hysbyseb swydd i gael manylion y gofynion cymhwysedd penodol cyn i chi wneud cais. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddechrau’r cynllun ac yn gymwys i weithio yn y DU.

2. OES GAN BOB CYNLLUN DDYDDIAD CAU?
Oes, mae gan bob cynllun ddyddiad cau a fydd yn cael ei ysgrifennu’n glir ar yr hysbyseb swydd. Mae’r cyfnod gwneud cais am ein cynlluniau ni yn para nifer o wythnosau. Rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio popeth eto cyn cyflwyno’r cais. Ni allwn dderbyn ceisiadau unwaith y bydd y dyddiad cau wedi bod.
2. OES GAN BOB CYNLLUN DDYDDIAD CAU?
YOes, mae gan bob cynllun ddyddiad cau a fydd yn cael ei ysgrifennu’n glir ar yr hysbyseb swydd. Mae’r cyfnod gwneud cais am ein cynlluniau ni yn para nifer o wythnosau. Rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio popeth eto cyn cyflwyno’r cais. Ni allwn dderbyn ceisiadau unwaith y bydd y dyddiad cau wedi bod.
3. ALLA I WNEUD CAIS AM FWY NAG UN LLEOLIAD?
Bydd gan y rhan fwyaf o gynlluniau hysbysebion swydd unigol ar gyfer pob un o’r lleoliadau y gallwch ymuno â nhw. Gallwch wneud cais am un lleoliad yn unig fesul cynllun, ond gallwch ychwanegu sylw yn eich cais eich bod yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer lleoliadau ychwanegol. Bydd yn amrywio o gynllun i gynllun o ran a yw hyn yn ymarferol. Rhaid i chi allu teithio’n rhwydd i’r lleoliad/swyddfa o’ch dewis.

4. ALLA I WNEUD CAIS AM FWY NAG UN CYNLLUN?
Byddem yn argymell i chi beidio â gwneud cais am fwy nag un cynllun prentisiaeth mewn blwyddyn. Mae’n well canolbwyntio ar y brentisiaeth benodol rydych chi’n teimlo fwyaf cyffrous amdani er mwyn i chi allu dangos eich angerdd dros y rôl. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl y gallwch chi ddangos eich cymhelliant i fwy nag un cynllun i ni, a’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y ddau, yna mae croeso i chi wneud hynny. Dim ond un cais y gallwch ei gyflwyno fesul cynllun ar gyfer pob blwyddyn dderbyn.

5. ALLA I NEWID Y CYNLLUN RYDW I WEDI GWNEUD CAIS AMDANO?
Mae gan bob cynllun ei feini prawf cymhwysedd a set o gwestiynau ei hun felly nid yw bob amser yn bosibl newid cynlluniau. Byddem yn eich annog i ddarllen yr holl wybodaeth berthnasol yn gyntaf cyn gwneud cais. Er bod cynlluniau’n dal i fod ar agor ar gyfer ceisiadau, gallwch dynnu eich cais yn ôl o un cynllun a gwneud cais am un arall.

6. ALLA I AILYMGEISIO AM YR UN CYNLLUN Y FLWYDDYN DDILYNOL OS NA FYDDA I’N LLWYDDIANNUS Y TRO CYNTAF?
Cewch! Roedd llawer o’n prentisiaid yn llwyddiannus ar eu hail neu drydydd ymgais. Gallwch ddysgu llawer wrth fynd drwy’r broses asesu a gwella bob tro. Mae’n dangos eich penderfyniad a’ch dycnwch i ni.

7. PA GEFNOGAETH YDYCH CHI’N EI RHOI I YMGEISWYR AG ANABLEDDAU?
Rydyn ni’n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2 ac os oes arnoch angen addasiadau er mwyn cyflwyno eich cais neu i gael cyfweliad ar gyfer rôl gyda’r BBC, cysylltwch â ni yn earlycareersrecruitment@bbc.co.uk, gan roi enw’r cynllun Prentisiaeth yn y blwch pwnc, a rhowch wybod i ni pa addasiadau sydd arnoch eu hangen.
Byddem yn falch o gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut y gallwn eich cefnogi drwy’r broses, gan fod nifer o wahanol ffyrdd y gallwn dderbyn cais a/neu addasu ein prosesau dethol.

8. BETH YDYCH CHI’N EI OLYGU WRTH GYFEIRIO AT ‘ADDASIADAU RHESYMOL’ NEU ‘ADDASIADAU’?
'Addasiad rhesymol' (ac 'addasiad' pan gaiff ei ddefnyddio yma) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r newidiadau y bydd sefydliadau a phobl sy'n darparu gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn eu gwneud i chi os yw eich anabledd, nam neu gyflwr yn eich rhoi dan anfantais. Er enghraifft, efallai y bydd arnoch angen mwy o amser ar gyfer rhai rhannau o’r cais neu’r asesiad, cael cwestiynau’r cyfweliad ymlaen llaw neu rydych angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau fel is-deitlau dros Zoom, darparu Iaith Arwyddion Prydain neu roi amser ychwanegol i chi – beth bynnag yw’r addasiad priodol ar gyfer eich anghenion. Beth am gael sgwrs a chael yr addasiad gorau i chi.

CYMHWYSEDD
CYMHWYSEDD
9. BETH YW’R GOFYNION ACADEMAIDD AR GYFER POB CYNLLUN?
Mae gan bob cynllun ofynion gwahanol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ofynion penodol pob cynllun yn yr hysbysebion swyddi. Edrychwch ar yr adran sy’n amlinellu’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano a gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’r meini prawf. Os felly, cliciwch ar ‘Gwneud cais’.

10. ALLA I WNEUD CAIS OS YDW I’N FYFYRIWR RHYNGWLADOL?
Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU yn llawnamser ac wedi bod yn breswylydd yn y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd am o leiaf 3 blynedd cyn dyddiad dechrau’r cynllun. Gallwch edrych ar www.gov.uk/legal-right-work-uk i weld pa ddogfennau sy’n rhoi'r hawl cyfreithiol i chi weithio yn y DU. Er gwybodaeth, nid yw Rhif Yswiriant Gwladol yn profi eich hawl i weithio yn y DU. Ar gyfer cynlluniau yn Guernsey, rhaid i ymgeiswyr fod â hawl i fyw a gweithio yn Guernsey yn unol â chyfreithiau poblogaeth lleol. Ar gyfer cynlluniau yn Jersey, rhaid i ymgeiswyr fod â hawl i fyw a gweithio yn Jersey, yn unol â chyfreithiau poblogaeth lleol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych yr hawl i weithio cyn cyflwyno cais. Ni allwn fwrw ymlaen â’ch cais os nad oes gennych y dogfennau hawl i weithio priodol. Sylwch nad yw’r BBC yn gallu darparu nawdd ar gyfer rolau gyrfaoedd cynnar y BBC.

11. BETH YW’R NIFER LEIAF O FLYNYDDOEDD Y MAE’N RHAID I MI FOD WEDI BYW YN Y DU CYN GWNEUD CAIS?
Ar gyfer cynlluniau prentisiaeth yn Lloegr, rhaid i chi fod yn byw yn y DU neu’r AEE am dair blynedd cyn dyddiad dechrau’r cynllun (ddim yn berthnasol i Gymru a’r Alban neu unigolion o dan y statws yn EP350 fel Cartrefi i Wcráin).

CAMAU ASESU
CAMAU ASESU
12. PA MOR HIR Y MAE’N EI GYMRYD I SYMUD RHWNG POB CAM O’R CAIS?
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun, ond oherwydd y nifer fawr o geisiadau, gall gymryd peth amser i gwblhau’r broses. Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob cam o’r broses a byddwn yn rhannu dyddiadau cyn gynted ag y gallwn.

13. FAINT O AMSER SYDD GENNYF I GWBLHAU’R ASESIADAU NEU’R DASG CYN-ASESU?
Bydd amserlenni’n amrywio, ond bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau unrhyw dasgau’n cael ei anfon gyda chyfarwyddiadau’r dasg. Rydyn ni’n argymell peidio â’i adael tan y funud olaf rhag ofn y bydd unrhyw broblemau technegol.

14. FAINT O AMSER Y BYDD RHAID I MI AROS I GLYWED OS BYDDAF YN LLWYDDIANNUS NEU BEIDIO?
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun a nifer y rolau rydyn ni’n asesu ymgeiswyr ar eu cyfer. Yn y cam canolfan asesu a chyfweliad, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am amserlenni.

15. OES GAN BOB UN O’R CYNLLUNIAU DASG CYN-ASESU?
Nac oes, nid oes gan bob cynllun prentisiaeth dasg i’w chwblhau cyn y ganolfan asesu, mae’n amrywio yn ôl pob rôl. Efallai y bydd gan rai cynlluniau prentisiaeth asesiadau ar-lein yn ystod y broses ymgeisio. Byddwch yn cael eich tywys drwy’r rhain wrth i’r broses symud ymlaen a byddwn yn rhoi gwybod i chi am amserlenni allweddol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i y broses ymgeisio.

16. YDYN NI’N CAEL ADBORTH AR ÔL POB CAM O’R BROSES?
Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd y cam sy’n cael ei gynnal yn un o’n canolfannau asesu neu i’r cam cyfweld, yna cewch gyfle i ofyn am adborth p’un a oeddech chi’n llwyddiannus ai peidio. Ar gyfer llawer o’n hasesiadau ar-lein, byddwch hefyd yn cael adroddiad adborth. Ni allwn rannu adborth ar gyfer camau eraill ein proses oherwydd y nifer fawr o geisiadau a gawn.