EIN CYFLEOEDD AR GYFER GYRFAOEDD CYNNAR
Yn y BBC, gallwch gwblhau cynllun blynyddoedd cynnar mewn un o bum maes eang: Busnes, Digidol, Peirianneg, Newyddiaduraeth a Chynhyrchu. Darllenwch fwy isod, a chael gwybod mwy am ein Profiadau Get In.
A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau ym meysydd rheoli prosiect, cyllid, y gyfraith, Adnoddau Dynol neu farchnata? Dewch tu ôl i’r llenni a helpu i sicrhau bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd yn rhedeg ac yn ffynnu.
CHWILIO AM GYNLLUNIAU HYFFORDDI BUSNES AC YMGEISIO AMDANYNT >
DIGIDOL
Ydych chi yn eich elfen gyda rhifau, syniadau a datrys problemau drwy arloesi? Ar ein cynlluniau Digidol, gallech ddysgu sut mae cadw systemau’r BBC yn ddiogel rhag bygythiadau seiber, helpu i siapio’r ffordd mae’r BBC yn defnyddio data cynulleidfaoedd, neu ddatblygu apiau a llwyfannau newydd gan ddefnyddio gwyddoniaeth data ac offer deallusrwydd artiffisial arloesol.
CHWILIO AM GYNLLUNIAU HYFFORDDI DIGIDOL AC YMGEISIO AMDANYNT >
PEIRIANNEG
Ydy’r ffordd mae pethau’n gweithio’n eich diddori chi? Ydych chi’n mwynhau datrys problemau technegol? Mae ein cynlluniau Peirianneg yn cynnig cyfle gwych i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd a systemau cyfryngau sy’n helpu’r BBC i ddarparu cynnwys ar draws ei wasanaethau.
CHWILIO AM GYNLLUNIAU HYFFORDDI PEIRIANNEG AC YMGEISIO AMDANYNT>
BUSNES

NEWYDDIADURAETH
Ydych chi’n chwilfrydig am bobl a’r byd rydych chi’n byw ynddo? Ydych chi’n llawn syniadau creadigol? Ydych chi eisiau dysgu sut i ysgrifennu a chynhyrchu cynnwys gwych? Ymunwch ag un o’n cynlluniau Newyddiaduraeth am gyfle i ddatblygu eich sgiliau gyda hyfforddiant a phrofiadau o’r radd flaenaf yn y diwydiant.
CHWILIO AM GYNLLUNIAU HYFFORDDI NEWYDDIADURAETH AC YMGEISIO AMDANYNT >
CYNHYRCHU
Ydych chi’n aelod hyblyg o dîm sydd eisiau creu cynnwys o’r radd flaenaf? Mae ein cynlluniau Cynhyrchu yn darparu cyfleoedd i weithio ar lwyfannau teledu, sain neu ddigidol. Neu, os ydych chi’n mwynhau trefnu pobl a sicrhau bod pethau’n cael eu cwblhau’n unol ag amserlenni, gwnewch gais am ein cynlluniau hyfforddi ar gyfer Cydlynydd a Rheolwr Cynhyrchu i weithio mewn timau, cefnogi gwneuthurwyr cynnwys a chadw cynyrchiadau ar y trywydd iawn.
CHWILIO AM GYNLLUNIAU HYFFORDDI YM MAES CYNHYRCHU AC YMGEISIO AMDANYNT >
PROFIADAU GET IN
Dal heb benderfynu? I gael profiad o’r llwybrau gyrfa gwahanol sydd gan y BBC i’w cynnig, tarwch olwg yma.