CYNYRCHIADAU BBC STUDIOS
Ni yw’r pwerdy cynhyrchu sydd wedi cael y nifer fwyaf o wobrau a chomisiynau yn y DU. O ddrama a chomedi i fyd natur a gwyddoniaeth, ni sy’n gyfrifol am rai o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd yn hanes teledu – sy’n cael eu cynhyrchu gan ein timau arbenigol mewn stiwdios ledled y byd.
DYFODOL DIGIDOL
Parhaodd ein gwasanaethau ffrydio newydd BBC Select a Podlediadau’r BBC a lansiwyd yn yr Unol Daleithiau, a BritBox International (y gwasanaeth ffrydio Prydeinig byd-eang sy’n eiddo i BBC Studios mewn partneriaeth ag ITV) i dyfu, gyda 2.4 miliwn o danysgrifwyr mewn pedair gwlad.
ARWEINYDDIAETH
Mae ein tîm arwain amrywiol a phrofiadol yn llywio BBC Studios tuag at ein nodau ac yn goruchwylio’r gwaith o greu a dosbarthu ein rhaglenni byd-enwog.
RHAGOR O WYBODAETH AM ARWEINYDDIAETH BBC STUDIOS >
GWEITHIO HYBLYG A GWEITHIO O BELL
Rydyn ni’n ceisio gweithio’n hyblyg yn BBC Studios, gan gynnig cydbwysedd unigryw rhwng bywyd a gwaith a 26 diwrnod o wyliau. Gan ddibynnu ar anghenion eich rôl, byddwn yn eich cefnogi i wneud eich gwaith gorau – boed hynny yn eich lleoliad yn y BBC, gartref neu yn rhywle arall.
LLEOLIADAU
Gan fod BBC Studios yn gweithio ledled y byd, byddwch chi’n dod o hyd i ni ym mhob man. Mae’r cyrhaeddiad hwn ar draws y byd yn ein helpu i ganfod a chynhyrchu’r cynnwys gorau sydd gan y byd i’w gynnig.