Datganiad Hygyrchedd Gyrfaoedd y BBC

Mae’r BBC wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl anabl. Mae pobl anabl yn grŵp amrywiol sydd â gofynion gwahanol, ac nid yw rhai ohonynt bob amser yn amlwg.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein proses recriwtio mor hygyrch â phosibl, mae gwefan Gyrfaoedd y BBC wedi cael ei adeiladu gan ystyried hygyrchedd o’r dechrau’n deg er mwyn i bawb, waeth beth fo’u gallu, allu ymgeisio am swyddi yn y BBC.

Mae’r dudalen hon yn amlinellu sut gall pobl ddefnyddio gwefan Gyrfaoedd y BBC a’i nodweddion hygyrchedd. Mae Datganiad Polisi Hygyrchedd y BBC (pdf, yn agor mewn ffenestr newydd) yn trafod ein hymrwymiad ehangach i hygyrchedd yn y BBC.

Mae’r safle’n defnyddio technolegau sydd y tu hwnt i reolaeth y BBC ac efallai y gallech chi ddod ar draws rhwystrau mewn rhai meysydd. Rydyn ni wrthi’n gweithio gyda’n partneriaid technoleg i ganfod a mynd i’r afael â materion yn barhaus. Mae materion hysbys wedi’u nodi ar y dudalen hon, ond os byddwch chi’n dod ar draws problem hygyrchedd ac angen cymorth, gallwch chi anfon neges e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk a gall ein tîm roi rhagor o gymorth i chi.

Llywio Bysellfwrdd

Mae gwefan Gyrfaoedd y BBC yn hygyrch drwy’r bysellfwrdd ac mae modd ei lywio drwy ddefnyddio’r allwedd tab. Mae dangosydd ffocws gweladwy i bob elfen ffocysu. Gellir ysgogi’r botymau drwy ddefnyddio’r bysellau ‘bwlch’ neu ‘enter’. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio F4 neu alt + saeth i lawr i ehangu rhai o’r cwymplenni.

Llywio Darllenydd Sgrin

Mae Gwefan Gyrfaoedd y BBC yn gweithio gyda JAWS ac NVDA ar Windows, VoiceOver ar Mac, Talk Back ar Android (Chrome) a VoiceOver ar ddyfeisiau iOS. Gall defnyddwyr lywio mewn cyd-destun neu allan o gyd-destun.

Chwyddo

Gellir chwyddo cynnwys tudalen i 200% heb golli cynnwys neu swyddogaeth. Gellir gweld y rhan fwyaf o gynnwys fel un golofn. Mae’r wefan wedi cael ei dylunio i fodloni argymhellion cyferbyniad lliw.

Problemau Hysbys

Canfuwyd rhai problemau hysbys yn ystod ein gweithdrefnau profi. Rydyn ni'n gweithio gyda’n partneriaid technoleg i fynd i’r afael â’r rhain. Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru wrth i broblemau gael eu datrys.

  • Mae strwythur pennawd ar rai tudalennau, ac mae’n bosibl nad yw’r rhain yn rhesymegol
  • Mae teitlau dyblyg i rai tudalennau, nid oes teitlau i rai fframiau.
  • Mae rhai eiconau a graffigwaith heb destun amgen disgrifiadol.
  • Nid yw rhai ffenestri naid yn dal ffocws.
  • Ni fydd testun o fewn delweddau yn cael ei ddweud wrth ddefnyddwyr darllenydd sgrin.
  • Bydd y dudalen yn dod i ben ar ôl 30 munud o segurdod. Efallai na chaiff yr hysbysiad ei ddweud wrth ddefnyddwyr darllenydd sgrin.
  • Nid yw rhai elfennau i’w gweld ar y dudalen ond fe allent barhau i dderbyn ffocws y bysellfwrdd sy’n golygu bod y ffocws yn diflannu o’r sgrin am ychydig.
  • Ar rai tudalennau, mae cynnwys na fydd o bosibl yn ail-lifo i un golofn yn gywir.

Os byddwch chi’n dod ar draws y problemau yma ac angen help, neu’n gweld unrhyw broblemau eraill, anfonwch e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk