GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC
Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.
RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC >
BBC STUDIOS
BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.
RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS >
rydyn ni’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest.
CYNULLEIDFAOEDD
sydd wrth galon popeth a wnawn.
PARCHU
ein gilydd – rydyn ni’n garedig ac rydyn ni’n hyrwyddo cynhwysiant.
CREADIGRWYDD
yw curiad calon ein sefydliad.
UN BBC
rydyn ni’n cydweithio, yn dysgu ac yn tyfu gyda’n gilydd.
ATEBOLRWYDD
i gyflawni gwaith o’r safon uchaf.